Mynydd Lluest y Graig

Prosiect parc ynni adnewyddadwy

Mae Vattenfall yn ymchwilio i brosiect ynni adnewyddadwy ym Mynydd Lluest y Graig yn y canolbarth, a disgwylir i gynlluniau gynnwys fferm wynt, ac opsiynau ar gyfer technolegau adnewyddadwy eraill fel solar a storio.

Mae Vattenfall yn awyddus i ddatblygu prosiect sydd o fudd i ffermwyr lleol, y gymuned a busnesau rhanbarthol, yn ogystal â helpu i gyflawni uchelgeisiau sero net Cymru.

Ymgynghoriad anffurfiol hydref 2022

Fe gynhaliwyd ymgynghoriad anffurfiol yn lleol yn yr Hydref 2022. Gellid gweld y wybodaeth a ddarparwyd isod.

Map o Leoliad y Fferm Wynt

Mae llinell goch y ffin yn dangos lleoliad y cynnig am barc ynni

Prif Ffeithiau

Y technolegau adnewyddadwy sy’n cael eu hystyried Gwynt, solar a storio
Capasiti trydan Ar hyn o bryd, 135 MW o’r gwynt
Nifer o gartrefi bob blwyddyn tua 90,000
Cyllid cymunedol Oes, a chyfle am berchnogaeth leol

 

Pen y Cymoedd Wind Farm, South Wales

Cynhaliodd tîm y prosiect gyfnod ymgynghori anffurfiol ym mis Tachwedd 2022 er mwyn trafod y prosiect a chasglu barn y gymuned leol er mwyn llywio datblygiad y prosiect yn gynnar.

Diolch i bawb a gymerodd yr amser i gyfrannu eu safbwyntiau a’r syniadau, sy’n nawr yn cael ei fwydo i mewn i ddyluniad y prosiect.

Byddwn yn diweddaru’r gymuned dros y misoedd nesaf gydag amserlen ddiwygiedig, a fydd yn cynnwys:

  • Cyfnod ymgynghori statudol cyn ymgeisio
  • Cyflwyno cais cynllunio i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW)
  • Dyddiadau penderfyniadau disgwyliedig gan Weinidog Llywodraeth Cymru yn dilyn archwiliad gan yr Arolygiaeth Gynllunio

Gwneud y gorau o'r gadwyn gyflenwi leol

Aeth 52% o’n buddsoddiad o £400 miliwn i adeiladu Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn ne Cymru i fusnesau yng Nghymru, gan sicrhau gwaith i fwy na 1000 o weithwyr yng Nghymru dros y cyfnod adeiladu o dair blynedd. Dysgwch fwy am yr hyn y mae hyn yn ei olygu i fusnesau lleol yn yr astudiaeth achos hon.

 

Cysylltwch â ni

Os oes gennych gwestiwn ynghylch prosiect ynni adnewyddol Mynydd Lluest y Graig, gallwch gysylltu â’r tîm yma.

Os ydych yn dirfeddianwr sydd wedi derbyn gwybodaeth oddi wrth Vattenfall yn gysylltiedig a'r prosiect yma, neu os ydych am gysylltu a'r tim o gylch eu anghenion tir, danfonwch ebost at land@vattenfall.com